- Salary: £26,200 - £32,000 p/a
- Job Type: Full-time
- Location: Caerdydd
- Closing Date: 05/10/2026
Key things to know
The role
Rydym yn chwilio am Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus uchelgeisiol, chwilfrydig a chreadigol i ymuno â’n tîm ni, a’n helpu i gyflwyno ymgyrchoedd sy’n gwneud i bobl siarad.
Byddwch yn gweithio gyda chleientiaid gwych ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a dielw, gan ein helpu i ddod o hyd i’r straeon sy’n bwysig, eu cyflwyno i’r bobl gywir, a chael gwir effaith.
Mae rhoi blanoriaeth i newyddion yn bwysig iawn yn Cowshed. Rydym yn chwilio am rywun sy’n byw agenda’r newyddion, yn gallu adnabod stori o bell ac sy’n barod i godi’r ffôn i siarad â newyddiadurwyr.
Bydd gennych brofiad ym maes cysylltiadau cyhoeddus neu gyfathrebu a byddwch yn sgwennwr ac yn gyfathrebwr rhagorol, gyda’r gallu i droi briff yn stori gref, datblygu syniadau newydd at ddiben cysylltiadau cyhoeddus a gweithredu’n gyflym pan fydd cyfleoedd yn codi.
Byddwch yn gweithio ar y cyd gyda thimau ymgyrchoedd, creadigol, digidol a chyfryngau cymdeithasol, gan gymryd cyfrifoldeb dros eich gwaith a chyflwyno syniadau.
Mae sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn y Gymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.
Os ydych yn gyfarwydd â Canva neu Adobe, ac yn meddu ar sgiliau sylfaenol golygu cynnwys/cyfryngau cymdeithasol neu brofiad o ddefnyddio offer gwerthuso cysylltiadau cyhoeddus, mae hynny hefyd o fantais.
Yn gyfnewid am hyn oll, cewch weithio gyda phobl arbennig ar ymgyrchoedd sy’n ymwneud ag achosion rydym wir yn credu ynddynt, ochr yn ochr â chleientiaid a chydweithwyr gwych.
Mae Cowshed yn gyflogwr sy’n talu Cyflog Byw Gwirioneddol, yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac yn Fusnes sy’n Ymwybodol o Awtistiaeth. Rydym yn ymdrechu i fod yn gymwys yn ddiwylliannol ym mhob agwedd ar ein gwaith a’n hamgylchedd gwaith, ac rydym yn falch o gymryd rhan yng nghynllun cymhwysedd diwylliannol Diverse Cymru. Rydym yn annog ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol ac o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i wneud cais.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi gyda’ch cais, cysylltwch â ni a gallwn wneud trefniadau priodol. Mae gan ein swyddfa lifft risiau a lifft arferol i hwyluso mynediad.
Gwnewch gais erbyn 5pm ar 2il Hydref drwy anfon eich atebion i’r cwestiynau canlynol at fiona@wearecowshed.co.uk ynghyd â’ch CV.
C1. Dywedwch pam eich bod yn gwneud cais ar gyfer y rôl hon.
C2. Amlinellwch eich profiad yn unol â’r sgiliau craidd, gan gynnwys enghreifftiau perthnasol lle bo modd. Os nad oes gennych brofiad uniongyrchol, dywedwch wrthym am y sgiliau rydych chi’n credu y gellir eu trosglwyddo.
C3. Nodwch unrhyw achos rydych chi’n angerddol yn ei gylch a sut y byddech chi’n defnyddio cyfathrebu i fynd i’r afael â’r achos penodol hwnnw.
What we need from you
The Day to Day
Cymryd sylw manwl o’r newyddion, y trends cymdeithasol, a’r sgyrsiau sy’n bwysig i’n cleientiaid a’n cynulleidfaoedd.
Dod o hyd i’r stori mewn briff a llunio syniadau ac onglau cysylltiadau cyhoeddus ffres.
Ysgrifennu datganiadau i’r wasg, cyflwyniadau, astudiaethau achos, pwyntiau trafod a chynnwys arall sy’n gywir, yn greadigol ac yn unigryw.
Adeiladu perthnasoedd â newyddiadurwyr, golygyddion, dylanwadwyr a rhanddeiliaid.
Adnabod cyfleoedd i ymateb ar draws yr agenda newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol, a gweithredu’n gyflym pan fyddant yn codi.
Cefnogi cyfweliadau’r cyfryngau, briffiau, digwyddiadau, sesiynau ffotograffiaeth a fideo, a gweithgareddau eraill – o’r syniad cychwynnol i’r sylw mae’n denu.
Cefnogi’r broses o ddatblygu a chyflwyno strategaethau cysylltiadau cyhoeddus a syniadau ar gyfer ymgyrchoedd.
Gweithio ar y cyd â thimau ymgyrchoedd, creadigol, digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Cyfrannu tuag at werthuso ymgyrchoedd ac adnabod mewnwelediadau ac unrhyw wersi y dylid eu dysgu.
Cefnogi gweithgareddau cysylltiadau’r cyfryngau ac adeiladu proffil Cowshed ei hun.
Rheoli prosiectau, terfynau amser a blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, tra’n rhoi sylw manwl i fanylion.
Key Responsibilities
Cyflwyno gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus o ansawdd uchel ar gyfer cleientiaid Cowshed ar draws amryw o sectorau.
Adnabod a datblygu cyfleoedd yn y cyfryngau sy’n rhagweithiol ac ymatebol.
Datblygu a chynnal perthnasoedd â newyddiadurwyr, golygyddion, dylanwadwyr a rhanddeiliaid perthnasol.
Datblygu onglau diddorol i straeon a syniadau cysylltiadau cyhoeddus yn seiliedig ar friffiau cleientiaid.
Cynhyrchu deunyddiau cyfathrebu cywir, deniadol sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa.
Cyfrannu tuag at strategaethau cysylltiadau cyhoeddus, cynllunio ymgyrchoedd a gwerthuso.
Core Skills
Bydd pob ymgeisydd sy’n medru arddangos y sgiliau craidd isod yn cael eu gwahodd i gyfweliad.
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol.
Sgiliau ysgrifennu copi cryf, gyda’r gallu i ysgrifennu cynnwys cywir, creadigol a deniadol ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol.
Profiad ym maes cysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu, newyddiaduraeth neu faes cysylltiedig.
Y gallu i ddod o hyd i stori mewn briff a datblygu syniadau ac onglau cysylltiadau cyhoeddus ffres.
Dealltwriaeth dda o’r agenda newyddion a’r hyn sy’n gwneud stori gwerth ei hadrodd.
Y gallu i ddatblygu perthnasoedd â newyddiadurwyr, golygyddion, dylanwadwyr a rhanddeiliaid.
Y gallu i adnabod cyfleoedd sy’n codi’n ddisymwth a gweithredu arnyn nhw’n gyflym.
Sgiliau trefnu cryf, gyda’r gallu i reoli prosiectau a therfynau amser niferus.
Y gallu i gydweithio ar draws timau a meysydd ag iddynt arbenigedd gwahanol.
Sylw rhagorol i fanylion ac ymrwymiad i waith o ansawdd uchel.
Personal Attitude
Rydym yn chwilio am bobl sy’n rhannu ein nod o weithio mewn ffordd ystyrlon.
Byddwch yn ymroi i greu effaith gadarnhaol ar gymdeithas.
Byddwch yn unigolyn sy’n llawn cymhelliant, yn ymroddedig ac yn chwilfrydig.
Byddwch yn cymryd cyfrifoldeb dros gyflawni gwaith ar gyfer eich cleientiaid.
Byddwch yn cyfrannu at ein diwylliant gwaith cynhwysol.
Byddwch yn cyfrannu at gyfarfodydd yn rheolaidd.
Byddwch yn mwynhau datrys problemau’n greadigol er mwyn datblygu syniadau ar gyfer eich cleientiaid a Cowshed.
Byddwch yn onest ac yn disgwyl cael eich trin yn broffesiynol ac â pharch, a byddwch yn trin eraill yn yr un modd.